SL(5)188 - Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Yn cynnwys plant a phobl ifanc sy’n gadael gofal neu sydd wedi gadael gofal.

Cefndir a Phwrpas

Cyhoeddir y cod ymarfer hwn o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y "Ddeddf").

Amcan y cod hwn yw cyflwyno cyfrifoldebau awdurdodau lleol o dan y Ddeddf ar gyfer:

·         cynlluniau gofal a chymorth mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, gan gynnwys addysg ac iechyd;

·         sut y dylid lletya a chynnal plant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys lleoliadau plant sy’n derbyn gofal;

·         cyswllt ac ymweliadau â phlant sy’n derbyn gofal a phlant a arferai dderbyn gofal, gan gynnwys ymwelwyr annibynnol;

·         trefniadau ar gyfer gadael gofal, cynghorwyr personol, cynlluniau ac asesiadau llwybrau, llety addas a chymorth ar gyfer addysg uwch;

·         llety diogel;

·         plant sy’n cael eu lletya mewn mathau eraill o sefydliadau (gan awdurdodau iechyd ac addysg, neu mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol).

Gweithdrefn

Rhaid gosod drafft o’r cod gerbron y Cynulliad. Os, o fewn 40 diwrnod (heb gynnwys unrhyw amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fydd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) o osod y drafft, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft, ni chaniateir i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod.

Os na wneir penderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft, a daw’r cod (neu’r cod diwygiedig) i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.

Craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Mae’r Pwyllgor yn croesawi eglurder y cod ynghylch pethau’n mae’n “rhaid” eu gwneud a phethau y “dylai” eu gwneud, a sut mae cyflwyniad y cod yn egluro o’r cychwyn cyntaf y gwahaniaeth rhwng y defnydd o “rhaid” a “dylai” yn y cod.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

9 Chwefror 2018